The Welsh Assembly Government is investing £3.3 million into the Welsh dairy industry over the next three years which will aid in improving efficiency, sustainability and added value in the dairy supply chain.
The main beneficiaries of the project will be dairy farmers who will benefit from advice, support and information on issues ranging from energy efficiency to maximising production efficiency and profits.
The project, funded by the Supply Chain Efficiencies scheme (SCE) through the Rural Development Plan for Wales 2007-2013, will be delivered by two project partners in Coleg Sir Gâr and DairyCo and is a major step forward in the provision of information and support for Welsh dairy farmers.
The Minister for Rural Affairs, Elin Jones, said: "Promoting collaborative working practices, improving supply chain linkages and ensuring the sharing of best practice amongst producers will be essential in enabling the industry to work more efficiently.
"The dairy industry is vitally important to the Welsh economy, and I am conscious of the pressures the industry currently faces. Through co-operation we will be able to secure a sustainable, efficient and innovative Welsh dairy sector."
Coleg Sir Gâr's Dairy Development Centre Manager, John Griffiths, explains: "This additional funding will enable us to deliver a number of innovative services to the dairy sector over and above those available through Farming Connect. We have developed the project in consultation with producers and processors so we are confident that its uptake will go some way towards assisting producers improve business efficiency."
Delyth Davies, Head of Dairy Development Wales at DairyCo, adds: "This level of investment in the industry demonstrates how much work has gone into building the partnership approach in delivery to the dairy sector. I'm looking forward to ensuring that Welsh dairy farmers receive constructive support and information to develop their businesses."
The project will also achieve the objectives as set out in the Dairy Industry Strategic Action Plan for the Welsh Dairy Industry and will support the development of the Welsh Dairy Roadmap which highlights environmental, animal health and welfare, supply chain and production considerations.
Terrig Morgan, Chairman of the Dairy Strategy Group said: "This initiative is welcomed by the industry and is a key area of work for the Dairy Strategy Group. The dairy industry is extremely competitive and this initiative will give the sector the support it requires to ensure it can compete in a global market and we look forward to seeing the positive results it will bring."
The SCE Scheme operates through the Rural Development Plan for Wales 2007-2013, which is funded by the Welsh Assembly Government and the European Agricultural Fund for Rural Development: Europe investing in Rural Areas.
The SCE scheme provides financial support for co-operation projects that will develop new products, processes and technologies in the agriculture, food and forestry sectors.
6 April 2010
Datganiad i'r wasg Llywodraeth Cynulliad Cymru
6 Ebrill 2010
W1003227
Cefnogaeth werth £3.3m yn helpu'r Diwydiant Godro yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn buddsoddi £3.3 miliwn yn niwydiant godro Cymru dros y tair blynedd nesaf, er mwyn helpu i wneud y gadwyn gyflenwi godro yn fwy effeithlon a chynaliadwy ac ychwanegu gwerth at y diwydiant.
Ffermwyr godro a fydd yn elwa ar y prosiect yn bennaf, a byddant yn cael cyngor, cymorth a gwybodaeth ynghylch materion amrywiol, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni a sut i wneud y broses gynhyrchu mor effeithlon â phosib a chynyddu'r elw gymaint â phosibl.
Caiff y prosiect, sy'n cael ei ariannu gan Gynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, ei weithredu gan ddau bartner prosiect yng Ngholeg Sir Gâr a DairyCo, ac mae'n gam mawr ymlaen yn y gwaith o ddarparu gwybodaeth a chymorth ar gyfer ffermwyr godro Cymru.
Meddai'r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones: "Bydd yn hanfodol hyrwyddo arferion cydweithio, gwella cysylltiadau'r gadwyn gyflenwi a sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhannu gyda'r cynhyrchwyr i alluogi'r diwydiant i weithio'n fwy effeithlon.
"Mae'r diwydiant godro yn hanfodol bwysig i economi Cymru, a dw i'n ymwybodol o'r pwysau y mae'r diwydiant yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Trwy gydweithio, byddwn ni'n gallu sicrhau sector godro cynaliadwy, effeithlon a blaengar i Gymru."
Esboniodd Rheolwr Canolfan Datblygu Llaeth Coleg Sir Gâr, John Griffiths: "Bydd yr arian ychwanegol hwn yn ein galluogi i ddarparu nifer o wasanaethau blaengar i'r sector godro, gan ragori ar y rheini sydd ar gael trwy Gyswllt Ffermio. Rydyn ni wedi datblygu'r prosiect mewn ymgynghoriad â chynhyrchwyr a phroseswyr, felly rydyn ni'n hyderus y bydd yn helpu cynhyrchwyr i wneud eu busnes yn fwy effeithlon."
Ychwanegodd Delyth Davies, Pennaeth Datblygu Llaeth Cymru yn DairyCo: "Mae'r buddsoddiad hwn yn y diwydiant yn dangos faint o waith sydd wedi'i wneud i ddatblygu'r dull o gydweithio i ddarparu gwasanaethau i'r sector godro. Rydw i'n edrych ymlaen at sicrhau bod ffermwyr godro Cymru yn cael cymorth a gwybodaeth adeiladol i ddatblygu eu busnesau."
Bydd y prosiect hefyd yn cyflawni'r amcanion a nodir yn y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Godro Cymru ac yn rhaglen y diwydiant godro at y dyfodol sy'n amlinellu'r ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i'r amgylchedd, iechyd a lles anifeiliaid, y gadwyn gyflenwi a chynhyrchu.
Meddai Terrig Morgan, Cadeirydd Grŵp y Strategaeth Laeth: "Mae'r diwydiant yn croesawu'r fenter hon, sy'n rhan allweddol o'r gwaith ar gyfer Grŵp y Strategaeth Laeth. Mae'r diwydiant godro yn hynod gystadleuol a bydd y fenter hon yn rhoi'r cymorth sydd ei angen ar y sector i gystadlu mewn marchnad fyd-eang, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y canlyniadau cadarnhaol y bydd yn dod â nhw."
Mae Cynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi yn gweithredu drwy Gynllun Datblygu Gwledig 2007-2013, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig.
Mae Cynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi yn darparu cymorth ariannol ar gyfer prosiectau cydweithio a fydd yn datblygu cynhyrchion, prosesau a thechnolegau newydd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth.
-DIWEDD-