Gyda'r gaeaf ar ein gwarthaf unwaith eto, yn y rhifyn hwn edrychwn
ar y ffordd y gall y golau yn eich siediau effeithio ar lefelau
cynhyrchu'ch buches laeth. Yn ôl Tim Davies, Kite Consulting, yr
adeg bwysicaf i ddylanwadu ar ffrwythlondeb buwch a'i gallu i
gynhyrchu llaeth yw yn ystod y chwe wythnos cyn ac ar ôl iddi
loia. Felly tu mewn i'r rhifyn hwn mae'n rhoi cyngor ar
fwydo'r fuwch yn ystod ei chyfnod sych. Mae Chris Duller
hefyd yn esbonio sut i ddod o hyd i arwyddion o gywasgu pridd a sut
i fynd ati i gywiro'r broblem. Y tu mewn hefyd ceir hanes
llwyddiant y diwydiant llaeth yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru Y Gwir
Flas eleni.